IvyDAVIESHunodd Ivy, (gynt o Lanarthne) yn dawel yng nghartref ei mab wedi cystudd hir ar ddydd Llun Dachwedd 24 yn 93 mlwydd oed, priod annwyl y diweddar Edgar, mam tyner Eifion, mam-yng-nghyfraith hoffus Bethan, mamgu cariadus Carol ac Eifion, Helen ac Andrew a Hefina a Gruff a hen-famgu hynaws Huw Llewelyn a Mari Gwenllian. Teimlir ei cholled yn fawr gan bawb. Cynhelir y gwasanaeth angladdol am 1 o'r gloch ar ddydd Iau Ragfyr 4 yng Nghapel Saron, Llanarthne, SA32 8JE, ac I ddilyn yn Amlosgfa Margam, SA13 2NR am 3 o'r gloch. Dim blodau os gwelwch yn dda, ond os dymunir cymerir cyfraniadau at achos Saron gan Mrs Carol Owen, neu Condon F/S, Glanafan Court, 50 Margam Rd, Port Talbot, SA13 2BN.
Keep me informed of updates